Choci Loni
2025

A live event of performance, music, video and animation
at Chapter, Cardiff 03/09/25

“Mae Young Marble Giants wedi cael dylanwad cerddorol mawr arna’ i... Fe alla’ i deimlo ryw déjà vu yn eu cwmni”. 
Susumu Yokota

Band ôl-bync o a ffurfiwyd yng Nghaerdydd yn 1978 oedd Young Marble Giants. Cynhyrchydd recordiau a chyfansoddwr o Japan oedd Susumu Yokota (22 Ebrill 1960 – 19 Mawrth 2015). 

Prosiect yw hwn sydd wedi’i enwi ar ôl cân gan Young Marble Giants, Choci Loni, a thrac gan Susumu Yokota, Tobiume. Yn ei sgil, mae meddyliau, teimladau, hunaniaethau, alawon, ymadroddion a rhythmau cyffredin yn cyd-blethu. 



Mae chwech artist, tri o Japan: Reina Kimura (dawnswraig/coreograffydd), Ichi (cerddor/artist perfformio) a Reiko Aoyagi (artist amlgyfrwng gweledol) a thri o Gymru: Anushiye Yarnell (dawnswraig/artist perfformio/artist gweledol), Ya Yonder (cerddor/artist perfformio) a Tess Gray (artist gweledol/artist perfformio) yn cael eu gwahodd i ymateb i’r llinyn cyswllt bychan iawn hwn a grëwyd unwaith rhwng Japan a Chymru.



Mae cyd-destun ehangach i’r prosiect yn y modd y bydd y cenhedloedd hyn, sydd wedi’u lleoli ar ynysoedd, yn dod o hyd i gyfleoedd i fynegi’u hunain yn arbrofol mewn diwylliannau sydd wedi cael eu hystyried ar adegau yn rhai dirodres, ac yn rhai sy’n cydymffurfio â math o barchusrwydd traddodiadol. Mae’r ymdeimlad hwn o ymatalgarwch yn creu tir ffrwythlon dros ben ar gyfer hynodrwydd herfeiddiol.



Bydd yna gerddoriaeth, symud, teithiau gweledol a thalpiau bach o hud a lledrith braf.  Gwehydd chwareus yw’r bydysawd, ac mae’n ein croesawu ni i gyd i ddod yn edefyn llachar ynddo.



___

Yn 2025, mae’n ddeng mlynedd ers marw Susuma Yokot ac yn 35 o flynyddoedd ers rhyddhau unig albwm Young Marble Giants, Colossal Youth. 

___


Rhwydwaith o bobl greadigol o Japan a Chymru, dan arweiniad artistiaid

Delwedd lonydd o’r perfformiad

Darn o fideo

Part one of Choci Loni Meets Tobiume Live Performance
Hosted by Chapter
Cardiff
Sep 2025

Videography by Alastair Gray

Part two of Choci Loni Meets Tobiume Live Performance
Hosted by Chapter
Cardiff
Sep 2025

Videography by Alastair Gray

Part one of Choci Loni Meets Tobiume Live Performance
Hosted by Chapter
Cardiff
Sep 2025

Videography by Alastair Gray